Gemwaith Cymreig a Cheltaidd mewn aur ac arian, gemwaith Aur Cymru Rhiannon 9ct a 18ct. Mae ein cynlluniau i gyd yn unigryw i ni, ac mae ein pwyslais ar yr ansawdd uchaf a safon ein gwaith a'n cynnyrch wedi ennill enw da i ni yn rhyngwladol. Sefydlwyd y cwmni ym 1971, ac rydym yn falch iawn o'n gwreiddiau yma yng Nghanolfan Aur Cymru Rhiannon, Tregaron. Rydym yn parhau i fod yn gwmni teuluol yn gweithio o'r un lleoliad â'r gweithdy gwreiddiol sydd, erbyn hyn, nid yn unig yn cynnig ein hystafell arddangos gemwaith arbennig, ond hefyd ein gweithdai arddangos lle y gallwch wylio ein gemyddion wrth eu gwaith.
DARNAU DAN SYLW
Cylchlythyr Rhiannon
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr achlysurol er mwyn derbyn diweddariadau dethol, manylion ein cynlluniau newydd a chynigion arbennig.
AUR CYMRU
Nid pob aur a'i crëwyd yn gyfwerth. Crëwyd peth o'r mwyaf gwerthfawr yng Nghymru. Nid yw Aur Cymru yn cael ei fwyngloddio rhagor, ac o'r herwydd mae'n cael ei ystyried ymysg aur mwyaf gwerthfawr y byd. Aur Cymru Rhiannon, sy'n tarddu ac wedi ei ddilysu o fwynfa Gwynfynydd, o gynnwys 10%, yw'r cymysgiad Aur Cymru mwyaf coeth sydd ar gael, ac mae ein cynlluniau cain unigryw, â thamaid o hud a lledrith ynysoedd y chwedlau, yn unigryw i'n casgliad Annwn.
CYNYRCHIADAU CYFYNGEDIG
Tra bod darnau comisiwn yn eu hanfod yn gyfan-gwbl unigryw rydym hefyd yn cynhyrchu nifer fechan o ddarnau cyfyngedig wedi eu rhifo bob blwyddyn. Rydym wedi cynnwys casgliad o'r cynlluniau fan hyn. Mae pob un o'r cynlluniau hyn ar gael mewn Aur Cymru Rhiannon yn unig. Dim ond 25 darn o bob cynllun sydd (oni nodir yn wahanol) a chaiff pob un ei wneud a'i rifo â llaw. Mae'r darnau cyfres cyfyngedig yn dod ynghŷd â thystysgrif dilysrwydd mewn llyfryn cyflwyno arbennig.
Yn achlysurol byddwn yn creu cynyrchiadau cyfyngedig Aur Cymru Rhiannon 18ct mewn niferoedd bychain iawn.
(Yn anffodus, mae sawl un o'r cynyrchiadau yma wedi dod i ben erbyn hyn ond fe'u cedwir yma fel ysbrydoliaeth ar gyfer y math o beth sy'n bosibl mewn darnau comisiwn unigryw, ac hefyd oherwydd ein bod, o dro i dro, yn ddigon ffodus i fedru ail gael gafael ar rai darnau cyfyngedig. Byddwn yn cynnig y rhain ar werth yn ôl y rhestr aros yr ydym yn ei chynnal ar gyfer pob eitem. Cysylltwch â ni os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros.)
MODRWYAU ARBENNIG
Rydym yn sicrhau bod pob un o'n modrwyau arbennig ni yn cael eu gwneud yn unigol â llaw a lle mae carreg ynddi, fod y garreg honno wedi cael ei dewis yn benodol gennym. Rydym wrth ein bodd yn cynllunio modrwyau unigryw ar gyfer ein cwsmeriaid ac yn credu ei bod hi'n naturiol i chi fod yn rhan o'r broses.