Technoleg

Yn ystod fy amser yn datblygu busnes Rhiannon rwyf wedi gweld newidiadau cyflym a thrawsnewidiol ym myd technoleg. Anodd credu erbyn hyn mor wahanol oedd pethau yn ôl yn y 1970au heb dechnoleg y llungopïwr na’r ffacs, heb sôn am y cyfrifiadur! Teipiadur “golf ball” oedd yr offer mwyaf cyfoes pan ddechreuodd y busnes, a phob gwaith argraffu yn cael ei wneud ar hen beiriant Gestetner lle’r oedd angen defnyddio inc a throi handlen â llaw. Y peth mwyaf chwyldroadol i ni oedd dyfodiad y peiriant ffacs. Cyn hynny buasai ymholiad trwy lythyr o America yn cymryd pythefnos i’n cyrraedd, pythefnos arall i’r cwsmer dderbyn yr ateb a phythefnos wedyn i ddanfon archeb. Yn sydyn roedd modd derbyn ymholiad, danfon ateb a braslun o gynllun a chwblhau archeb o fewn un diwrnod! Erbyn hyn wrth gwrs mae’r ffacs ei hun yn grair o’r gorffennol a phopeth yn digwydd mewn eiliadau ar y We. Gellir argraffu hefyd mewn eiliadau yn syth o’r cyfrifiadur, a throsglwyddo delweddau a chopi ar draws y byd heb oedi. Er hynny ni fu dyfodiad y cyfrifiadur a’r we fyd eang yn gymaint o newid a’r un cyntaf hwnnw. Cyflymu fwyfwy mae’r datblygiadau yn y maes hwn, a phlant ifainc heddiw yn gadael eu rhieni ar ei hôl hi. Rhaid i mi gyfaddef fy mod innau hefyd wedi “colli’r bws” yn awr, yn methu cadw i fynnu â’r holl Gyfryngau Cymdeithasol sy’n newid ein ffordd o feddwl a’n ffordd o fyw, – ond sylweddolaf bod rhaid i fusnes eu defnyddio i weithredu ac i oroesi yn y byd newydd sydd ohoni. Mae’n amser i mi gamu o’r neilltu efallai, a throsglwyddo’r awenau i genhedlaeth iau. Braidd yn rhy ifanc eto yw’r haid o wyrion sydd gennyf, ond ymhen rhyw flwyddyn bydd y cyntaf yn camu ymlaen i ysgol uwchradd, – pwy a ŵyr beth ddaw yn y dyfodol?
,