Cŵn bach!
Wfft i’r gemwaith i ddynion, am y tro, felly. Wnaf sôn yn lle am ba mor wych yw’r Corgi Ceredigion, un o gŵn hynafol Prydain gyda’r brid yn meithrin llinach o dros 3000 o flynyddoedd ar ein ynys. Y brid perffaith i ni’r Cymry sydd hefyd yn cyfri ein hunain yn drigolion gwreiddiol hynafol Prydain!
Maent hefyd yn gŵn eithriadol, yn alluog, yn ffyddlon ac yn effeithiol. Yn ôl y sôn maent yn medru dysgu dros 300 o orchmynion ac yn medru hel anifeiliaid o’r cae heb gymorth person wedi iddynt gael hyfforddiant trwyadl.
Fel arfer dim ond 2-6 o gŵn bach sydd mewn toraid ond chwarae teg i Pegi, 7 tro hyn ac 8 yn y doraid gyntaf sawl blwyddyn yn ôl. Mae wedi gwneud yn dda ond dyma’r doraid olaf iddi, a thro ei merch Nel fydd hi’r tro nesaf.
Down yn ôl at y cŵn bach yn y dyfodol agos i’w dilyn wrth iddynt dyfu mae’n siwr – pwy all wrthsefyll y demptasiwn o weld cŵn bach yn tyfu a chwarae wedi’r cyfan?
Bydd rhaid i’r gemwaith i ddynion aros tan wythnos nesaf neu rhywbryd arall ond ar ôl treulio awr fach braf yng nghwmni’r cŵn bach ffres heno doedd dim gobaith mod i’n mynd i sgwennu am unrhywbeth arall!