Y Cynlluniau


Datganiad Personol gan Rhiannon

Rhiannon S. Evans

Rhywdro yn y 70au cynnar, diswyddais daro i mewn i arddangosfa yn Llundian lle’r oedd rhai o’r creiriau Celtaidd o Brydain ac Ewrop wedi eu casglu at ei gilydd. Bryd hynny, nid oedd celyddyd y Celtiaid yn adnabyddus nac yn boblogaidd fel y mae heddiw, a phrin oedd y gwerthfawrogiad ohono.

Ni allwn ond synnu a rhyfeddu at ragoriaeth y crefftwaith a’r dylunio yn y gweithiau hynafol hyn, rhai ohonynt wedi eu gwneud dros 3000 o flynyddoedd yn ôl. O’m cwmpas safai llawer o bobl o wahanol wledydd, i gyd wedi eu cyfareddu gan y casgliad, a oedd yn llawn delweddau symbolaidd pwerus a hudolus.

Roedd hon yn gelfyddyd fawr, fel celfyddyd y Groegiaid a’r Efftiaid gynt. Ond tra bod symbolaeth y traddodiadau hynny yn dipyn o ddirgelwch i mi, teimlwn ryw adnabyddiaeth a dealltwriaeth reddfol o’r delweddau hyn. Gwelwn yn eu mysg lawer a oedd yn perthyn i’r traddodiad barddol a chwedlonol Cymreig, creaduriaid arallfydol fel y Twrch Trwyth a Chŵn Annwn, ac wynebau a oedd yn hanner dyn a hanner aderyn neu anifail. Roedd Blodeuwedd yma, a Lleu Llaw Gyffes a’r Pair Dadeni, ac yr oedd hyd yn oed y symbolau patrymog yn gwneud rhyw fath o synnwyr yng nghyd-destun y traddodiad Cymraeg. Nid celfyddyd rhyw wlad bell neu wareiddiad angof oedd yma ond ein traddodiad gweledol ni!

Sylweddolais cyn lleied o bobl Prydain heddiw oedd mor ffodus â minnau, wedi cael fy nhrwytho yn iaith a thraddodiad hynafol yr ynys hon o’m plentyndod, a chymaint mwy sy’n mynd yn angof pan fydd iaith yn marw. Eto, roedd y delweddau gweledol hyn yn llwyddo i gyfleu llawer o’u neges gwreiddiol ar draws y canrifoedd. O’r foment honno teimlais rhyw reidrwydd i barhau gwaith y cenedlaethau hyn o grefftwyr ymroddgar, i greu gwaith newydd o fewn ein traddodiad hynafol, yn tarddu o’r un ysbrydoliaeth a’u hysgogodd hwythau.

Dewisais arian ac aur fel cyfrwng a bwrw ati i ddysgu’r sgiliau angenrheidiol. O’r dechrau yr oedd pob darn o emwaith gorffendig wedi ei gyflwyno gyda thaflen fechan yn esbonio’r cynllun – yn ogystal â bod yn ddarn deniadol i’r llygad, roedd y gemwaith yn gyfrwng i gyfleu ac i rannu’r hyn a wyddwn o’r traddodiad Celtaidd. Gydag amser, datblygodd fy nghrefft trwy brofiad ac ymarfer, a’m deallwriaeth trwy ddarllen yn eang a chysylltu darnau o wybodaeth o wahanol feysydd.

Yn ystod y 40 mlynedd diwethaf mae’r busnes wedi tyfu’n gyson ac erbyn heddiw mae pobl o bob cwr o’r byd yn prynu ac yn gwisgo fy nghynlluniau. Rwy’n parhau i gynllunio pob darn newydd fy hun, a gwneud y cynnyrch cyntaf. Fi hefyd sy’n gwneud y cyfresi cyfyngedig, Aur Cymru Rhiannon ac ambell ddarn comisiwn. Mae gennym dim bychan o staff ymroddgar, i gyd yn siarad Cymraeg, a gweinyddir y cwmni trwy gyfrwng y Gymraeg. Fy mab ieuengaf Llywelyn sydd bellach yn rheoli’r cwmni o ddydd i ddydd, gan adael i minnau ganolbwyntio ar yr hyn rwy’n mwynhau fwyaf, sef cynllunio a gwneud gemwaith.

Mae rhywfaint o dyfiant pellach yn anorfod, ond fel cwmni teuluol ni fyddwn yn cyfaddawdu ar ansawdd na safon ein gwaith, nac yn colli’r ymroddiad personol. Caiff ein gemwaith ei wneud i barhau, a rhoddir dilysnod llawn yr Assay Office yn Llundain ar bob darn, i ddynodi ei darddiad a’i gynnwys ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Rhiannon S Evans