Clustdlysau Buddug Arian £185.00
✓ Cludiant am ddim
✓ Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
✓ Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
✓ Gwarant gwneuthuriad am oes
✓ Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
(gw. amodau a thelerau)
Manylion
Mae Clymwaith Celtaidd bob amser yn boblogaidd ymysg ein gemwaith, ac efallai yn fwy perthnasol yn awr nag erioed, gan ei fod yn cynrychioli cylchoedd diderfyn a chydberthynas cymhleth popeth yn y byd o’n cwmpas.
Mae Rhiannon wedi enwi rhain ar ôl ei Bleiddgwn Gwyddelig hoff a ffyddlon, a fu’n gwmni ac yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd y blynyddoedd, ond sydd bellach wedi gadael y byd hwn. Bu wyth ohonynt i gyd, felly bydd mwy o gynlluniau i ddilyn!
Yn gynllun ar ffurff cylch, mae Buddug er cof am fleiddgi cyntaf y teulu, gast famol iawn a oedd yn hoff iawn o fabanod a phlant, ac yn eu dysgu i gerdded.