Tlws Gwenith Gwyn Aur 18ct £1565.00
gan
Rhiannon
✓ Cludiant am ddim
✓ Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
✓ Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
✓ Gwarant gwneuthuriad am oes
✓ Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
(gw. amodau a thelerau)
Manylion
Mae’r darn hwn yn un o gyfres sydd wedi ei ysbrydoli gan alawon a dawnsiau traddodiadol Cymreig – patrymau manwl wedi eu gwau gan ddwsin neu ragor o ddawnswyr, mewn llwybrau cymhleth, di-ddiwedd. Enwyd y cynllun hwn ‘Gwenith Gwyn’ ar ôl y gan serch draddodiadol:
Myfi sydd fachgen ifanc ffôl
Yn byw yn ôl fy ffansi
Myfi’n bugeilio’r gwenith gwyn
Ac arall yn ei fedi.
Pam na ddôi di ar fy ôl
Rhyw ddydd yn ôl ei gilydd
Gwaith rwy’n dy weld y feinir fach
Yn lanach, lanach beunydd.