Broets Cenhinen Bedr Aur 9ct £695.00
✓ Cludiant am ddim
✓ Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
✓ Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
✓ Gwarant gwneuthuriad am oes
✓ Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
(gw. amodau a thelerau)
Manylion
Mae’r cynllun hwn yn perthyn i Gasgliad Cymru, sy’n cynnwys Dreigiau, Cennin Pedr a’r Delyn. Maent yn arwyddion sylfaenol a dirodres o genedl gymhleth; ein bwriad oedd cadw’r cynlluniau gemwaith mor syml a phosib, er mwyn adlewyrchu hynny. Er bod y symbolau yn rhai digon cyffredin, mae pob darn wedi ei fodelu mewn manylder godidog gan Rhiannon.
Mae’r Genhinen Pedr hon, sydd wedi ei modelu yn llawn, yn gwneud broets deniadol iawn i’w wisgo ar got neu siaced – dylai pawb o dras Cymreig wisgo Cenhinen Pedr ar Ddydd Gwyl Dewi, ac mae hon yn siwr o bara am flynyddoedd.
Mae gan Rhiannon hefyd bin sy’n cynnwys pen y blodyn yn unig.