Broetsiau

Weithiau, ystyrir broetsiau ychydig yn hen ffasiwn, ond sothach yw hyn yn ein barn ni! Mae gennym lawer o froetsiau cyfoes a thrawiadol yn ein detholiad a chredwn eu bod yn edrych yn wych ar unrhyw un. Mae bathodynnau a broetsiau wedi cael eu gwisgo am filoedd o flynyddoedd er mwyn datgelu rhywbeth bach am yr un sy'n eu gwisgo. O'r darnau symbolaidd amlwg fel ein Cenhinen Bedr (sy'n angenrheidiol ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi!), i Ŵyn Bach Melangell a'i hanes hynod, i unrhyw nifer o anifeiliaid. Porwch i weld os oes gennym eich hoff anifail totemig chi (ac os nad oes, cysylltwch yma i weld a yw'ch un chi ar y ffordd, neu i ddweud wrthym eich bod eisiau rhywbeth arbennig!)