Aur Cymru Rhiannon

Mae Aur Cymru Rhiannon yn cynnwys Aur Cymru go iawn sydd wedi ei warantu a'i ddilysu. Mae gwerth ychwanegol iddo gan ei fod wedi ei wneud â llaw a'i orffen i'r safon uchaf posib yn ein gweithdy ein hunain, sydd wedi ei leoli ar sgwâr Tregaron ers dechrau'r 1970au. Mae ein cyfresi cyfyngedig yn arbennig iawn, yn cael eu gwneud mewn niferoedd bychain yn unig a'u rhifo yn unigol. (Ymddiheurwn i'r rhai a gollodd gyfle am ambell un oherwydd i'r gyfres werthu allan yn fuan.)